[go: up one dir, main page]

Yng nghrefydd Bwdhaeth, Bwdha yw unrhyw fod sydd wedi ennill Goleuedigaeth ac wedi profi Nirfana.

Bwdha
Enghraifft o'r canlynolcysyniad crefyddol, teitl parchusol, teitl Edit this on Wikidata
MathArya, cymeriad crefyddol Edit this on Wikidata
Enw brodorol𑀩𑀼𑀤𑁆𑀥 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mae'r erthygl yma yn trafod y syniad o Fwdha. Am sylfaenydd Bwdhaeth, gweler Siddhartha Gotama.
Bwdha yn eistedd, o gyfnod Tang yn Tsieina, talaith Hebei.

Yn y Canon Pali a thraddodiad y Theravada, mae Bwdha fel rheol yn golygu rhywun sydd wedi dod yn oeleuedig trwy ei ymdrechion ei hun, heb athro. Gelwir y rhai sydd wedi dod yn oleuedig trwy ddysgeidiaeth Bwdha yn Arahant. Yn nhraddodiad y Mahayana, defnyddir "Bwdha" am unrhyw un sydd wedi dod yn oleuedig. Y term sy'n cyfateb i'r gair Arahant yn y Mahayana yw Bodhisattva, sy'n dynodi un sydd wedi gohirio fod yn Fwdha er mwyn cynorthwyo eraill ar y ffordd.

Er mai Siddhartha Gotama yw'r Bwdha enwocaf, nid yw'r un o'r traddodiadau yn ystyried mai ef oedd yr unig un. Yn y traddodiad Theravada, ystyrir fod cryn nifer o rai eraill wedi bod o'i flaen, 28 yn ôl un traddodiad, tra mae'r traddodiad Mahayana yn ystyried fod modd i Fwdha fod yn fod goruwchnaturiol hefyd, megis Amitabha neu Vairocana. Credir mai enw'r Bwdha nesaf fydd Maitreya (Pali: Metteyya).

Eginyn erthygl sydd uchod am Fwdhaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.