Beth Doherty
Mae Beth Doherty (ganwyd 10 Mehefin 2003) yn ymgyrchydd hinsawdd sy'n byw yn Iwerddon. Yn gyfaill i Greta Thunberg, mae Doherty yn gyd-sylfaenydd School Strikes for Climate Ireland ac yn aelod o Fridays for Future. Gan ddechrau yn 15 oed, mae Doherty wedi codi'r ymwybyddiaeth o ymdrechu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.
Beth Doherty | |
---|---|
Beth Doherty yn Rhagfyr 2020 yn annerch y dorf | |
Ganwyd | 10 Mehefin 2003 |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
Galwedigaeth | ymgyrchydd hinsawdd |
Gweithredu dros yr hinsawdd
golyguAr 6 Mawrth 2019, fel rhan o grŵp o fyfyrwyr a wahoddwyd, anerchodd Doherty aelodau 'Pwyllgor yr Oireachtas ar Weithredu dros yr Hinsawdd'. Dilynwyd hyn gan lawer o brotestiadau disgyblion a myfyrwyr dros yr wythnosau canlynol, lle cyflwynwyd chwe galw am weithredu yn yr hinsawdd.[1][2] Ym Mawrth 2019, ymddangosodd Doherty ar The Late Late Show ochr yn ochr â sawl gweithredwr hinsawdd ifanc arall.
Yn ystod streic ysgolion 15 Mawrth dros yr hinsawdd yn 2019, anerchodd Doherty dorf o dros 11,000 yn streic Dulyn, lle beirniadodd Llywodraeth Iwerddon am ddiffyg gweithredu yn erbyn newid hinsawdd, a chyhuddodd y Gweinidog Gweithredu dros yr Hinsawdd a’r Amgylchedd, Richard Bruton, o ddefnyddio’r rali fel llwyfan iddo ef ei hun.[3][4]
Mae Doherty wedi ysgrifennu darnau ar gyfer TheJournal.ie am fethiant Llywodraeth Iwerddon i gyflawni nodau hinsawdd 2020.[5] Yn ogystal, mae hi wedi gweithio gyda Chyngor Dinas Dulyn ar gynllun hinsawdd newydd y cyngor. Yn Ebrill 2019, ymddangosodd Doherty yn y 'Loud & Clear! Youth views on Climate' yn swyddfa Senedd Ewrop gyda sawl ymgeisydd ASE yn Nulyn i siarad o blaid gwell polisiau hinsawdd y ddinas.[6] Unwaith eto, anerchodd Doherty y protestwyr hinsawdd yn Nulyn yn ystod ail streic ar 24 Mai 2019.[7][8]
Ym mis Mai 2019 anerchodd Doherty gynhadledd genedlaethol IDEA ar y rhesymau dros y mudiad streicio dros yr hinsawdd.[9] Gweithiodd hefyd fel prif drefnydd ar gyfer y drydedd streic ysgol fawr ar 21 Mehefin 2019, ynghyd â’r ddwy streic fawr arall a rali ar gyfer datganiad Iwerddon ar yr argyfwng hinsawdd ar 4 Mai 2019. Yn Awst 2019, cynrychiolodd Doherty Iwerddon yn Uwchgynhadledd Ewropeaidd Dydd Gwener (Fridays for Future European Summit) yn Lausanne, y Swistir, ochr yn ochr â 13 o gyfranogwyr eraill.
Ym mis Tachwedd 2019, roedd Doherty yn un o'r 157 o gynrychiolwyr i Gynulliad Ieuenctid RTE ar Hinsawdd yn Dáil Éireann.[10] Pleidleisiwyd dros ychwanegu ei chynnig, ynghylch system dreth haenog ar allyriadau carbon corfforaethau, ar ddatganiad y Cynulliad Ieuenctid fel un o'r 10 cynnig.[11] Yn ddiweddarach, cyflwynodd y datganiad i Arlywydd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Tijani Muhammad-Bande, ochr yn ochr ag ysgrifenwyr y naw cynnig arall. Yn ddiweddarach yr wythnos honno, cyfarfu Doherty a thraddodi araith o flaen Arlywydd Iwerddon, ochr yn ochr â Chynrychiolwyr Ieuenctid y Cenhedloedd Unedig yn Iwerddon. Yn Nhachwedd, gweithiodd Doherty fel trefnydd streic Dulyn ar 29 Tachwedd, yn gyfochrog â streic a gydlynwyd yn rhyngwladol.
Yn ychwanegol at ei gwaith yn erbyn newid hinsawdd, roedd Doherty yn rownd derfynol y gystadleuaeth 'Dadlau Iau Genedlaethol Matheson',[12] ac mae'n aelod o Senedd Ieuenctid Ewrop Iwerddon, a bydd yn cynrychioli Iwerddon yn 92ain Sesiwn Ryngwladol Senedd Ieuenctid Ewrop, ym Milan.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Chaos, Stop Climate (30 Medi 2017). "Students Demand Immediate Action on Climate Change". Stop Climate Chaos. Cyrchwyd 10 Mehefin 2019.
- ↑ foeireland (6 Mawrth 2019). "Beth from School Strike 4 Climate speaks to members of the Irish parliament about climate action". Cyrchwyd 10 Mehefin 2019.
- ↑ "Thousands of students in Ireland join international climate change protests". www.irishtimes.com. Cyrchwyd 10 Mehefin 2019.
- ↑ "Irish student's strike with others around the world over climate change". The College View. 20 Mawrth 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-25. Cyrchwyd 10 Mehefin 2019.
- ↑ Doherty, Beth. "Opinion: You say you love your children - so why are you stealing our futures?". TheJournal.ie. Cyrchwyd 10 Mehefin 2019.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-17. Cyrchwyd 2021-05-07.
- ↑ "Student protest calls on Government to take radical action on climate crisis". www.irishtimes.com. Cyrchwyd 10 Mehefin 2019.
- ↑ https://youtube.com/Wd0qqbyISbU[dolen farw]
- ↑ Murphy, Colin. "We're at a crucial moment for our climate - just ask any teen | BusinessPost.ie". www.businesspost.ie. Cyrchwyd 2019-07-14.
- ↑ https://www.rte.ie/news/youth-assembly-delegates-2019/
- ↑ https://www.rte.ie/news/youth-assembly/2019/1113/1090623-show-support-for-the-youth-assembly-recommendations/
- ↑ "Debating Memes for Cork Teens on Instagram: "In case anybody has not received the tab of results from the Munster Junior Matheson Final in Dublin last month, here it is.…"". Instagram. Cyrchwyd 10 Mehefin 2019.