Alun Cairns
Aelod o'r Blaid Geidwadol, a chyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru yw Alun Hugh Cairns (ganed 30 Gorffennaf 1970). Cynrychiolodd Ranbarth Gorllewin De Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru o 1999 hyd 2011. Roedd yn Aelod Seneddol dros Fro Morgannwg yn 2010 a 2024.[1]
Alun Cairns | |
| |
Cyfnod yn y swydd 19 Mawrth 2016 – 6 Tachwedd 2019 | |
Prif Weinidog | David Cameron |
---|---|
Rhagflaenydd | Stephen Crabb |
Cyfnod yn y swydd 15 Gorffennaf 2014 – 19 Mawrth 2016 | |
Rhagflaenydd | Stephen Crabb |
Olynydd | Guto Bebb |
Cyfnod yn y swydd 6 Mai 1999 – 6 Mai 2011 | |
Deiliad | |
Cymryd y swydd 7 Mai 2010 | |
Rhagflaenydd | John Smith |
Geni | Abertawe | 30 Gorffennaf 1970
Plaid wleidyddol | Y Blaid Geidwadol |
Alma mater | Prifysgol Caerdydd |
Cafodd ei benodi'n Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar 19 Mawrth 2016 ac ymddiswyddodd ar 6 Tachwedd 2019 yn dilyn ffrae am ei gyn-ymgynghorydd oedd wedi dymchwel achos llys.
Magwraeth a choleg
golyguMagwyd ef yng Nghlydach, Abertawe, a mynychodd Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe ac Ysgol Gyfun Ystalyfera. Enillodd radd Meistr mewn Gweinyddiaeth Busnes (MBA) ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd.[2] Wedi graddio ymunodd gyda Banc Lloyds am gyfnod.
Gyrfa
golyguSan Steffan
golyguSafodd yn aflwyddiannus ar ran y Blaid Geidwadol yng Ngŵyr yn 1997 ac eilwaith ym Mro Morgannwg yn 2015 ac eto yn 2007. Fe'i etholwyd yn 2000 fel yr aelod dros Fro Morgannwg gyda mwyafrif o 4,307 dros Lafur. Collodd ei sedd yn Etholiad Cyffredinol 2024.
Daeth yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar 19 Mawrth 2016 gan wasanaethu o dan Brif Weinidogion Cameron, Mai a Johnson yn dilyn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd.
Ymddiswyddiad
golyguYn Nhachwedd 2019, roedd yn y newyddion oherwydd ei gefnogaeth i'w gyn-ymgynghorydd Ross England.[3] Cyhuddwyd England gan farnwr o danseilio a dymchwel achos llys yn ymwneud â threisio. Er hynny, cefnogodd England fel ymgeisydd i'r Blaid Geidwadol ar gyfer y Cynulliad. Roedd y dioddefwr yn yr achos o drais yn arfer gweithio yn swyddfa etholaethol Cairns, a galwodd arno i ymddiswyddo. Gwadodd Mr Cairns ei fod yn gwybod am ran Ross England yn yr achos ond daeth yn amlwg fod Cairns wedi cael llythyr am yr achos yn Awst 2018.[4]
Daeth pwysau gan y cyhoedd a gwleidyddion eraill iddo ymddiswyddo yn arwain at Etholiad Cyffredinol 2019. Toc wedi hanner dydd ar 6 Tachwedd, fe ymddiswyddodd fel Ysgrifennydd Gwladol.[5]
Cynulliad Cenedlaethol
golygu- safodd yn llwyddiannus yn etholiadau'r Cynulliad yn 1999 gan gynrychioli Pen-y-bont ar Ogwr[6],
- bu hefyd yn llwyddiannus ar Restr Rhanbarth Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2007, gan gynrychioli Gorllewin De Cymru gyda Peter Black a Dr. Dai Lloyd.
- Fe'i ail-etholwyd i'r sedd yn 2003 ac yn 2007 gan gael ei benodi'n llefarydd ei blaid dros datblygiad diwydiannol a chludiant am wyth mlynedd.
Ar 14 Mehefin 2008 ymddiswyddodd o Gabined yr wrthblaid wedi iddo wneud sylwadau dadleuol ar Radio Cymru ond ail-gymrodd ei le yn Hydref y flwyddyn honno, yn dilyn ymchwiliad.[7] Gwnaed y sylwadau ar raglen wythnosol Dau o'r Bae, pan ymddiheurodd am alw Eidalwyr yn greasy wops.[8] Ymddiswyddodd o'r Cabined yn dilyn y rhaglen.[9][10]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Ysgrifennydd Cymru a thri rhagflaenydd yn colli eu seddi Cymreig". newyddion.s4c.cymru. 2024-07-05. Cyrchwyd 2024-07-05.
- ↑ BBC News AMs profile: Alun Cairns. BBC (12 Mai 1998).
- ↑ Y pwysau’n cynyddu ar Alun Cairns i sefyll i lawr , Golwg360, 6 Tachwedd 2019.
- ↑ 'Anodd iawn i Alun Cairns arwain ymgyrch y Ceidwadwyr' , BBC Cymru Fyw, 6 Tachwedd 2019.
- ↑ Alun Cairns yn ymddiswyddo wedi ffrae Ross England , BBC Cymru Fyw, 6 Tachwedd 2019.
- ↑ "BBC News AMs profile". BBC. 12 Mai 1998. Cyrchwyd 16 Hydref 2015.
- ↑ "Greasy wops slur Tory is general election candidate". Wales Online. 22 Hydref 2008. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2008. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ "Tory candidate apologises for 'greasy wops' comment". The Guardian. London. 14 Mehefin 2008. Cyrchwyd 23 Ebrill 2010.
- ↑ http://icwales.icnetwork.co.uk/news/wales-news/2008/06/14/tory-resigns-over-greasy-wops-remark-91466-21075874
- ↑ "Tory suspended as party candidate". BBC Online. 15 Mehefin 2008. Cyrchwyd 15 Mehefin 2008. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help)
Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: sedd newydd |
Aelod Cynulliad dros Ranbarth Gorllewin De Cymru 1999 – 2011 |
Olynydd: Byron Davies |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: John Smith |
Aelod Seneddol dros Fro Morgannwg 2010 – 2024 |
Olynydd: Kanishka Narayan |