Afon Llynfi (Powys)
afon yn Llan-gors, Powys
Afon ym Mhowys sy'n llifo i mewn i Afon Gwy yw Afon Llynfi.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llan-gors |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 105 metr |
Cyfesurynnau | 52.0333°N 3.2°W |
Cod OS | SO1227 |
Mae'n tarddu gerllaw adfeilion Castell Blaenllynfi, fymryn i'r gogledd-orllewin o bentref Bwlch, ac yn llifo tua'r gogledd i lifo trwy Lyn Syfaddan. Wedi gadael y llyn, mae'n llifo i'r gorllewin o bentref Llangors a heibio Llandyfaelog Tre'r-graig, yna i'r gorllewin o bentref Trefeca. Llifa heibio Castell Bronllys, lle mae Afon Dulas yn ymuno â hi, gyda Bronllys i'r gorllewin a Talgarth i'r dwyrain. Wedi mynd heibio Pipton, ychydig i'r gorllewin o Aberllynfi, mae'n ymuno ag Afon Gwy gerllaw'r Clas-ar-Wy.