1767
blwyddyn
17g - 18g - 19g
1710au 1720au 1730au 1740au 1750au - 1760au - 1770au 1780au 1790au 1800au 1810au
1762 1763 1764 1765 1766 - 1767 - 1768 1769 1770 1771 1772
Digwyddiadau
golygu- 3 Gorffennaf - Darganfaddiad yr Ynysoedd Pitcairn.
- Jean-Jacques Rousseau ym Mhrydain.
Llyfrau
golygu- Evan Thomas (Ieuan Fardd Ddu) - Traethawd ar Fywyd Ffydd[1]
- Laurence Sterne - Tristram Shandy
- Voltaire - L'Ingénu
Cerddoriaeth
golygu- Thomas Arne - Pedwar symffoniau
- Josef Haydn - Symffoni rhif 35
Tywydd
golyguGaeaf caled
golyguEira 1767 Yng nghyfrol F G Payne[2] ceir cofnod am farwolaeth tri bugail o'r un teulu yn eira mawr 1767. Mae Payne yn cofnodi pennill am eu marwolaeth i fyny ar Fforest Clud, ond mae'r bedd yn Llanfihangel Rhyd Ieithon.[3] Cyfeiria Payne at eira mawr ym mis Chwefror y flwyddyn dan sylw. Ond fe ymddengys mai mis Ionawr ydoedd:
- Prydain 1767: Cold winter...* [= digwyddiad eithriadol] Early January: severe storm...heavy snowfall, 60 cm. 21 January: start of thaw....[4]
- Dinbych: ”Mis lonawr 1767 a ddechreuodd yn rhewunt oer a ffyrnig iawn hud yr 8d, a'r diwrnod hwnnw yr oedd hi yn bwrw eira trwu r dudd, ac hi a barhaodd i lichio yr hen ac i fwrw peth newudd dros wuthnos gyfa. Yr oedd hi yn llichfudd mawr a llawer o ffurdd wedi cau i fynu gan eira fel nad ellid mo r trafaelio a rhewi yn ffyrnig hud y 19d.”[5]
- Dinbych 20 Ionawr 1767 toddi a rhesymol deg hud y diwedd. Roedd y farchnad yn bur drud ar yr eira. Fe aeth peth gwenith yn Nhre ffynon i 22s. yr hob, ond erbun diwedd y mis yr oedd pob ud ynghulch yr un fath a mis Rhagfur[5]
- Dyma ddywedodd Owen Thomas, Dinbych am dywydd Chwefror 1767. “Mis Chwefrol a ddechreuodd yn deg ac yn rhowiog iawn yr haner cynta, a'r haner ola yn wyntog ac yn wlub iawn...’
Genedigaethau
golygu- 5 Ionawr - Jean-Baptiste Say, economegydd (m. 1832)
- 15 Mawrth - Andrew Jackson, Arlywydd yr Unol Daleithiau (m. 1845)
- 11 Gorffennaf - John Quincy Adams, Arlywydd yr Unol Daleithiau (m. 1848)
- 25 Hydref - Benjamin Constant, nofelydd a llenor gwleidyddol (m. 1830)
Marwolaethau
golygu- 25 Mehefin - Georg Philipp Telemann, cyfansoddwr, 86
- 11 Medi - Theophilus Evans, awdur, 74[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Thomas Isfryn Jones. "Thomas, Evan (Ieuan Fardd Ddu; 1733-1814), argraffydd a chyfieithydd". Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 18 Hydref 2021.
- ↑ 'Crwydro Sir Faesyfed' (Yr ail ran), Llyfrau'r Dryw, 1968, t26-27
- ↑ Dai Thorne ym Mwletin Llên Natur
- ↑ John Kington Climate and Weather Collins NN
- ↑ 5.0 5.1 Owen Thomas: Llyfrau atgofion a chyfrifon (CLlGC XVI 1970)
- ↑ Enid Pierce Roberts. "Evans, Theophilus (1693-1767), hanesydd a llenor". Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 18 Hydref 2021.