[go: up one dir, main page]

Marc

efengylydd a sant yng Nghristnogaeth
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:24, 28 Mehefin 2011 gan Adda'r Yw (sgwrs | cyfraniadau)

Sant Marc (Hebraeg: מרקוס; Groeg: Μάρκος; fl. yn y ganrif 1af OC) yw awdur tybiedig Yr Efengyl yn ôl Marc. Roedd yn gyfaill i Sant Pedr ac yn gydymaith i Paul yr Apostol a Barnabas ar daith genhadol gyntaf Paul.

Dethlir Gŵyl Sant Marc ar y 25ain o Ebrill, y dyddiad y'i laddwyd. Yn ôl traddodiad yn yr Eglwys Goptaidd sylfaenodd Marc yr eglwys yn Alecsandria, ac felly ef yw sylfaenydd Cristnogaeth yn yr Affrig. Roedd yn dwyn y teitl Esgob Alecsandria ac felly yn ragflaenydd i Babau Alecsandria, y penaethiad ar yr Eglwys Goptaidd yn yr Aifft. Ei symbol yw y llew.

Enwir nifer o eglwysi ar ôl Sant Marc; un o'r enwocaf yw Basilica San Marco, eglwys gadeiriol Fenis yn yr Eidal.

Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.